Ysgol Llechryd

Siarter Iaith

Prif nod y Siarter Iaith yw hybu naws Gymreig gref yn ein hysgol a darparu ystod o weithgareddau cyfoethog sy’n ysgogi’r plant i fwynhau dysgu Cymraeg. Rydym am ysbrydoli ein dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae’r Siarter Iaith yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol, ac anogir y gymuned ysgol i gymryd perchnogaeth lawn ohoni. Fel Ysgol rydym wedi ennill gwobrau Efydd ac Arian ac ar y daith erbyn hyn i gyrraedd y wobr Aur. Mae’r Cyngor Ysgol yn allweddol wrth arwain a gyrru’r Siarter Iaith yn ei blaen yma yn Ysgol Llechryd.