Ysgol Llechryd

Arwyr lles

Mae iechyd a lles yn agwedd bwysig iawn o gwricwlwm ein hysgol, a chredwn yn gryf taw lles y plant sydd yn dod yn gyntaf bob tro. Rôl ein harwyr lles yw sicrhau bod lleisiau’r plant yn cael eu clywed ac ein bod yn gofalu am les ein dysgwyr. Mae gan y plant lawer o syniadau am bethau hoffent wneud i hybu eu lles. Rydym wedi cael hwyl yn gwneud yoga, amryw o chwaraeon y tu allan, sesiynau meddylgarwch, darllen straeon newydd a llawer mwy!