Llysgenhadon Efydd
Mae ein Llysgenhadon Efydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo chwaraeon ac addysg gorfforol yn Ysgol Llechryd. Maent yn cynorthwyo yn ystod sesiynau ymarfer corff y disgyblion iau ac yn arwain y rhaglen ‘Ffit mewn 5’ yn ystod gwasanaethau wythnosol. O hyn, maent yn ysbrydoli ac yn annog pob plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol amrywiol gan helpu i greu amgylchedd ysgol cynhwysol a gweithgar, sydd o fudd i les corfforol a meddyliol ein holl disgyblion.
