Ysgol iach
Mae ein hysgol yn falch iawn o gael bod yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Ceredigion.
Mae ysgol hybu iechyd…
- yn ysgol hapus
- yn gymuned ofalgar a chanddi ots am iechyd ei holl aelodau, yn ddisgyblion, yn athrawon, yn staff nad ydynt, yn dysgu a phawb sy’n ymwneud â hi
- yn annog plant i gydnabod beth y maen nhw’n neud yn cyfri – yr ydym gyd yn effeithio bywydau eraill
- yn cydnabod nad rhywbeth a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth yn unig yw addysg iechyd, ond rhywbeth a gefnogir ac a atgyfnerthir ym mywyd beunyddiol yr ysgol a’r gymuned leol
- yn darparu’r holl wybodaeth sydd ar ddisgyblion ei hangen ynghylch maeth, ymarfer corff, perthnasau ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan eich plentyn ddiod (rydym yn argymell dŵr yn unig) yn yr ysgol bob dydd a darn o ffrwyth (afal, mefus, grawnwin, oren ac ati) neu lysiau amrwd (moron, pupur ac ati) ar gyfer egwyl y bore.
