Cylch Meithrin Llechryd
Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llechryd yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn. Mae ein hamgylchedd cartrefol a hapus yn cynnig y gofal gorau posibl, a’r cyfle i bob plentyn ddysgu a datblygu i’w llawn botensial. Mae’r lleoliad yn cynnig teganau ac adnoddau o’r safon uchaf, sy’n briodol i anghenion, datblygiad ac oedran y plant.
Dechrau’n Deg – Mae’r Cylch yn dod o dan Ardal Dechrau’n Deg Ceredigion. Mae hyn yn golygu bod teuluoedd cymwys yn derbyn hyd at 12.5 awr yr wythnos o ofal plant am ddim, o’r tymor yn dilyn eu hail ben-blwydd. Gofynnwch yn y Cylch neu i’ch Ymwelydd Iechyd am fwy o wybodaeth.
Addysg gynnar wedi’i hariannu – Efallai y bydd cyllid ar gael i blant yn y tymor yn dilyn eu trydydd penblwydd.
Gofynnwch i’r Cylch am fwy o wybodaeth.
Mae’r Cylch yn gweithredu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Bydd y ddarpariaeth ar agor ar gyfer sesiynau o 3 awr rhwng 9:00 a 12:00, o ddydd Llun i ddydd Iau am 39 wythnos y flwyddyn.
Darperir ein gwasanaeth gan dîm o staff cymwys ac ymroddedig.
Cyfeiriad: Cylch Meithrin Llechryd, Ysgol Llechryd, Llechryd, SA43 2NL
E-bost: cylchmeithrinllechryd@gmail.com
