Ysgol Eco
Mae ein clwb Eco wedi bod yn gweithio’n galed i gynnal yr holl waith da sydd wedi ein helpu i gadw ein Baner Platinwm am y 6ed tro y llynedd. Maent wedi arwain sawl gwasanaeth yn yr ysgol, wedi bod yn rhan o gasglu sbwriel ac wedi ysgrifennu at sefydliadau lleol i godi arian ac i gael rhywfaint o offer ar gyfer gwella gardd yr ysgol.
Mae’r clwb Eco yn chwarae rhan allweddol yn ystod ein ‘Prynhawn Prysur’ bob prynhawn Gwener, wrth arwain grwpiau o blant allan yn yr ardd ac wrth helpu’r plantos ieuengaf yr ysgol.
