Ysgol Llechryd

Croeso

Ar ran fy hun, llywodraethwyr, staff, a disgyblion Ysgol Gynradd Llechryd, croeso i wefan yr ysgol.

Ein nod yn Ysgol Gynradd Llechryd yw darparu addysg o’r safon uchaf i’n disgyblion tra’n sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae lefel gyson uchel o gynnydd academaidd ar draws pob maes dysgu ynghyd â chymorth ar gyfer lles disgyblion yn cyfuno i greu amgylchedd dysgu arbennig lle gall plant ffynnu.

Lleolir ein hysgol yng nghanol Llechryd a rhoddwn bwyslais mawr ar ddatblygu partneriaeth gref rhwng y cartref a’r ysgol drwy gydweithio mewn awyrgylch o barch a chefnogaeth. Mae’n fraint i ddarparu seiliau cadarn i’n dysgwyr, a chariad at ddysgu drwy weithio mewn partneriaeth â’n teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Gobeithio y dewch o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mr. Lee Burrows.

Pennaeth