Cyngor Technotastig
Technotastig yw cyngor TGCh pwrpasol ein hysgol sy’n ymrwymedig i wella’r profiad digidol i’r holl ddisgyblion a staff. Arweinir y cyngor gan y Llysgenhadon Digidol sy’n derbyn hyfforddiant bob tymor, gan roi sgiliau newydd iddynt eu rhannu gyda’r staff a’r disgyblion eraill. Gweledigaeth Technotastig yw sicrhau bod gan bob disgybl yn yr ysgol y sgiliau digidol angenrheidiol ar gyfer byw yn y gymdeithas heddiw, gan hyrwyddo diogelwch ar-lein ar yr un pryd. Maent yn ganolog wrth drefnu gweithgareddau ysgol gyfan ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
