Grant Hanfodion Ysgol
Er fod holl ddisgyblion oed cynradd bellach yn cael yr hawl i brydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ariannol ar gael i chi trwy’r Grant Hanfodion Ysgol.
Diben y Grant Hanfodion Ysgol yw rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu:
- Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
- Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
- Cyfarpar e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa;
- Cyfarpar arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg;
- Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.
- Offer TG – gliniaduron a thabledi yn unig. Bydd angen i chi gadarnhau na all ysgol eich plentyn roi benthyg gliniadur/tabled iddo i’w defnyddio gartref.
Mae cyllid o hyd at £125 ar gael i bob plentyn cymwys (o’r Derbyn i Bl11), ac eithrio’r rhai ym Mlwyddyn 7 sydd â hawl i £200.
O wneud cais a derbyn yr hawl at y Grant, byddwch hefyd yn sicrhau cyllid ychwanegol i’r ysgol er mwyn cefnogi dysgwyr difreintiedig.
Darllenwch mwy am y Grant gan ddilyn y ddolen isod.
Grant Hanfodion Ysgol – Cyngor Sir Ceredigion
Os ydych chi’n riant i ddisgybl o’r Derbyn i Flwyddyn 11 a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys – gwnewch gais yma.
Prydau Ysgol am Ddim (ceredigion.gov.uk)
Fel arall, cysylltwch â’r Awdurdod Lleol ar (01545) 570 881 er mwyn cwblhau cais dros y ffôn.
