"O`r fesen fach i`r gangen uchaf, anelwn am ragoriaeth."
Welsh only available...
Yn 2016 llwyddodd Ysgol Llechryd i ddod yn Eco-Ysgol Blatinwm. Mae Ysgol Blatinwm yn ysgol sydd wedi bod yn ymwneud â’r rhaglen am 8 mlynedd, neu am y cyfnod a gymerodd gyrraedd 4edd faner. Roedd hyn yn anrhydedd fawr i’r cyngor eco, yr Ysgol gyfan a’r gymuned.
Mae gan yr Ysgol Eco Gôd wedi ei osod ar ffurf posteri o gwmpas yr Ysgol i atgoffa’r plant, staff ag ymwelwyr am reolau ‘gwyrdd’ yr ysgol.
Mae’r Ysgol wedi cymeryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau i godi ymwybyddiaeth o fyw mewn byd gwyrdd. Mae’r prosiectau yn cynnwys
‘Diwrnod Glanhau, Tacluswch’ – Prosiect casglu sbwriel yn y gymuned
‘Recycle with Michael’ – Prosiect Ail-gylchu dillad ‘Salvation Army’. Wrth ailgylchu dillad mae hyn hefyd yn creu incwm ar gyfer yr ysgol hefyd.
‘Wythnos Cerdded I’r Ysgol’ – Hybu plant i gerdded i’r Ysgol.
Mae rhain yn enghreifftiau o weithgareddau a drefnir gan yr Ysgol Eco.
Mae Cyngor Eco hefyd yn hybu,
*Cynaliadwyaeth
*Masnach Deg
*Dinasyddiaeth Byd Eang
*Hawliau Plant
*Bwyta’n a byw’n iach
*Arbed Egni
© Copyright 2020 ~ Ysgol Gynradd Llechryd ~ Website with DELWEDD