Ysgol Gynradd Llechryd

"O`r fesen fach i`r gangen uchaf, anelwn am ragoriaeth."

image_5

Croeso i wefan Ysgol Gynradd Llechryd


Annwyl riant/gwarcheidwad,

Croeso i wefan yr ysgol. Lleolir Ysgol Llechryd yng nghanol y pentref a derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r dosbarth derbyn yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed.

Ein gweledigaeth yn Ysgol Llechryd yw darparu ysgol lle mae'r holl ddisgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig amgylchedd croesawgar, gofalgar, ysgogol a diogel er mwyn annog dysgu effeithiol a gosod ymdeimlad o falchder ynddynt eu hunain, yr ysgol a'r gymuned. Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a'i barchu a bydd ein llwyddiannau yn cael eu dathlu ynghyd. Mae’r plant, eu haddysg a'u lles, yn ganolog i’r holl broses o wneud penderfyniadau yn Ysgol Llechryd.

Ceisiwn wireddu ein gweledigaeth trwy ddarparu cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethog gyda digon o brofiadau dysgu diddorol ac adnoddau da i’w gefnogi, yr hyn a fydd yn ysgogi chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn, waeth beth fo'i allu, hil neu ryw.

Ein gweledigaeth a’n dymuniad yw gweld bywydau pawb sy'n gadael Ysgol Llechryd wedi eu cymhwyso a’u gwella trwy’r profiadau a dderbyniasant yn yr ysgol ac y bydd pob disgybl wedi cael eu harfogi gan y gallu i fod yn ddysgwyr gydol oes.

Yn gywir,

M. G. Lewis B.Ed (hons) M.A. NPQH

Ysgol
Plant
Rhieni
Newyddion
Y Cymuned